Papur Tystiolaeth Ysgrifenedig ar Ddatganoli Ardrethi Busnes yng Nghymru gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

 

1.   Cyflwyniad

 

1.1  Diben y papur hwn yw cynorthwyo'r Pwyllgor Menter a Busnes wrth iddo gynnal sesiwn i graffu ar Ddatganoli Ardrethi Busnes yng Nghymru.

 

1.2  Mae'r papur yn mynd i'r afael â’r meysydd a nodwyd gan y Pwyllgor fel rhai sydd o ddiddordeb penodol i'r sesiwn graffu hon. Mae hyn yn cynnwys newidiadau posibl ac opsiynau sy'n cael eu hystyried.

 

2.   Costau a manteision economaidd yr opsiynau polisi

 

2.1  Mae ystyried y costau a'r manteision yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu opsiynau polisi. Mae hynny, ynghyd ag ystyried materion eraill megis pa mor gystadleuol yw’r system ardrethi busnes, o gymorth i benderfynu a yw’r cynigion yn ddilys, yn werth chweil ac yn briodol. 

 

2.2  Mae data Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar werth ardrethol adeiladau annomestig yn cael eu defnyddio i ddatblygu a phrisio'r opsiynau polisi. Bydd y data hynny'n cael eu gwirio yn erbyn y data lleol sydd gan yr Awdurdodau Bilio. Gan ddibynnu  ar natur y cynllun, gellir hefyd wneud rhagdybiaethau am y data hynny. Er enghraifft defnyddiwyd y cyfraddau eiddo gwag yn achos y Cynllun ar Agor am Fusnes.

 

2.3  Wrth lunio opsiynau polisi, cymerir camau i ystyried yr ymyriadau posibl eraill, i amcangyfrif y costau a’r manteision a ragwelir, ac i edrych ar y dadansoddiad o sensitifrwydd er mwyn adlewyrchu, er enghraifft, y gwahaniaeth yn lefelau'r niferoedd a fydd yn manteisio ar y cynlluniau hynny. Mae'r dull cyfrannol hwn yn gymesur â'r dull a ddefnyddir ar gyfer ardrethi annomestig (‘ardrethi busnes’) mewn lleoedd eraill.

 

2.4  Hefyd, cesglir data am y cynlluniau wrth iddynt gael eu rhoi ar waith er mwyn monitro'r nifer sy'n eu defnyddio a'u heffaith. Fodd bynnag, nid yw mesur neu hyd yn oed nodi'r holl gostau a’r manteision posibl bob amser yn broses syml. Yn aml, maent yn fwy na ffactorau economaidd yn unig.

 

3.   Amserlen ar gyfer y newidiadau

 

3.1  Mae angen penderfynu ar y newidiadau i'r modd sylfaenol y caiff ardrethi busnes ei weinyddu ymhell cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y byddant yn cael effaith. Mae hyn yn caniatáu i'r Awdurdodau Bilio wneud y trefniadau angenrheidiol ac yn caniatáu i unrhyw is-ddeddfwriaeth angenrheidiol gael ei llunio.  

 

3.2  Mewn rhai achosion, gellir rhoi rhyddhad ardrethi dros dro yn seiliedig ar grantiau. Nid oes angen cymaint o amser i gyflwyno cynlluniau o’r fath a hynny am eu bod  yn targedu rhywbeth mwy penodol. Er hynny, mae angen parhau i sicrhau bod digon o amser a gwybodaeth gan yr Awdurdodau Bilio i gyflwyno’r newidiadau.

 

4.   Y potensial ar gyfer ardrethi gwahaniaethol yng Nghymru

 

4.1  Tra bo Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn diddymu’r Ardrethi Busnes Unffurf ac yn caniatáu i’r Awdurdodau Bilio leihau’r lluosydd er mwyn denu buddsoddiad, ni wnaed penderfyniad ar hynny yng Nghymru. Mae’r potensial yno i gyflwyno cyfraddau trethi gwahaniaethol ond mae anawsterau’n gysylltiedig â hynny. Er enghraifft, byddai angen deddfwriaeth sylfaenol a byddai goblygiadau o ran refeniw trethi lleol. Yn ychwanegol at hynny, daeth y Panel Ardrethi Busnes i’r casgliad y gallai gweithredu cyfraddau trethi gwahaniaethol o fewn Cymru greu system gymhleth gyda chyfraddau amrywiol a byddai llai o sicrwydd i breswylwyr o safbwynt eu cyllidebau.

 

5.   Cadw ardrethi lleol

 

5.1  Gallai cyflwyno system o gadw ardrethi lleol fod yn fodd i gymell awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar dwf. Roedd y Panel Ardrethi Busnes yn cefnogi’r egwyddor o sefydlu system i gadw ardrethi’n lleol. 

 

5.2  Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae angen mynd i’r afael â nifer o ffactorau wrth ystyried y posibilrwydd o gyflwyno system o gadw ardrethi’n lleol yng Nghymru. Er enghraifft, nid oes cysondeb o ran faint o refeniw y gall amryfal awdurdod lleol Cymru ei godi drwy ardrethi. Yn ogystal â hynny, mae’r ardrethi busnes yn elfen graidd o’r cyllid ar gyfer gwasanaethau lleol ledled Cymru. Er enghraifft, mae’r cyfraddau treth y gall awdurdodau lleol Cymru eu codi yn anghyson o ran y modd y cant eu dosbarthu. Yn ogystal â hyn, mae’r ardrethi busnes yn elfen graidd o’r cyllid a roddir ar gyfer gwasanaethau lleol ledled Cymru.  

 

5.3  Byddai cadw ardrethi’n lleol yn peri risg. O gadw ardrethi’n lleol byddai’r risgiau hynny, yr enillion a’r cyllid a fyddai ar gael i wasanaethau lleol wedi hynny, ynghyd â photensial yr awdurdodau i sicrhau cynnydd net yn swm yr ardrethi a gesglir, yn amrywio’n sylweddol rhwng yr awdurdodau lleol. Byddai angen ystyried dulliau o amddiffyn awdurdodau sy’n dibynnu’n fawr ar nifer bach o drethdalwyr. Gallai’r rhain leihau’r cymhelliad a ddaw fel arall o gyflwyno system i gadw’r ardrethi’n lleol. Hefyd, gallant ychwanegu ymhellach at gymhlethdod y system.

 

5.4  Mae’n bwysig bod cadw ardrethi’n lleol felly yn cael ei ystyried yng                     nghyd-destun y cynigion ehangach ar gyfer diwygio llywodraeth leol yng Nghymru ac ar yr un pryd â system ar gyfer cyllido gwasanaethau lleol.

 

6.   Ailbrisio

 

6.1  Yng Nghymru a Lloegr, cynhaliwyd y broses ailbrisio ddiweddaraf ar 1 Ebrill 2010. Cynhelir yr un nesaf yn 2017. Gwnaeth y Panel Ardrethi Busnes ystyried hyd y cylch ailbrisio a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar fusnesau. Yn ei adroddiad, bu’r Panel yn ystyried barn sy’n gyffredin ymhlith busnesau a gweithwyr proffesiynol ym maes ardrethu masnachol, sef y gallai ailbrisio’n amlach fod yn fodd i sicrhau bod y sylfaen drethu’n adlewyrchu amgylchiadau economaidd yn well. 

 

6.2  Mae pa mor aml y dylid ailbrisio yn cael ei ystyried ar lefel y DU ac mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) wedi cynnal dadansoddiad manwl o’r mater hwn. Daeth y VOA i'r casgliad na fyddai ailbrisio'n amlach o reidrwydd yn gwella’r sefyllfa o ran sefydlogrwydd biliau. Byddai hynny'n dibynnu ar y newid ym mhrisiau eiddo ar draws y farchnad ac ar y graddau y mae tueddiad cyson i’w weld yn y prisiau hynny 

 

 

6.3  Yn amlwg, mae manteision ac anfanteision i ailbrisio'n amlach ac i fabwysiadu dull gwahanol yng Nghymru i'r un a ddefnyddir yn Lloegr. Wrth newid unrhyw ddull gweithredu, mae angen ystyried ffactorau megis y manteision i fusnesau, y gost i Lywodraeth Cymru a'r effaith ar yr arenillion a sefydlogrwydd y ffynhonnell hon o refeniw ar gyfer gwasanaethau lleol.

 

7.   Economi integredig a ffin hydraidd

 

7.1  Mae economi Cymru wedi'i hintegreiddio i raddau helaeth gyda Lloegr. Mae nwyddau a gwasanaethau yn cael eu masnachu'n rhydd ar draws y ffin a hynny o fewn fframwaith sy'n seiliedig ar gyfreithiau cyffredin o safbwynt y farchnad gyfalaf a llafur.   

 

7.2  Mae ffin Cymru  ̶  Lloegr yn fwy hydraidd na ffin yr Alban  ̶  Lloegr. Er enghraifft, mae 16.4 miliwn o bobl yn byw o fewn 50 milltir i ffin Cymru  ̶  Lloegr ac mae 6.3 miliwn o bobl yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin. Mewn gwrthgyferbyniad, dim ond 3 miliwn o bobl sy'n byw o fewn 50 milltir i ffin yr Alban-Lloegr a dim ond 0.5 miliwn o bobl sy'n byw o fewn 25 milltir i'r ffin.

 

7.3  Mae'r llif o gymudwyr rhwng ffin Cymru  ̶  Lloegr hefyd yn sylweddol uwch na'r llif yn yr Alban. Yn ôl data cyfrifiad 2011, roedd dros 75,000 o bobl yn teithio o Gymru i weithio yn Lloegr a 44,370 o bobl yn teithio o Loegr i weithio yng Nghymru. Mewn gwrthgyferbyniad, roedd y llif o gymudwyr rhwng yr Alban a Lloegr dipyn yn is. Yn 2011, roedd oddeutu 16,000 o bobl yn byw yn yr Alban ond yn gweithio’n Lloegr tra bo 26,000 o bobl yn byw yn Lloegr ac yn gweithio yn yr Alban.

 

7.4  O ystyried hyn, mae'n bwysig nad yw penderfyniadau ar ardrethi busnes, ac ar gystadleurwydd ein system, yn cael eu hystyried fel materion ar wahân.

 

8.   Cyfrannu at dwf economaidd a mesur perfformiad

 

8.1  Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen a'r Panel Ardrethi Busnes wedi datgan yn glir nad yw polisi ardrethi busnes yn ateb pob problem o safbwynt twf economaidd.  Gwnaethant hefyd nodi mai tystiolaeth gyfyngedig sydd ar gael am yr effaith y byddai cyflwyno newidiadau i'r system ardrethi yn ei chael ar yr economi'n ehangach. Fodd bynnag, gwnaethant gydnabod bod ardrethi yn dueddol o gyfrannu at gyfran uwch o gyfanswm costau gweithredu busnesau bach ac mae tystiolaeth i brofi bod ardrethi busnes yn parhau i fod yn bryder mawr i BBaChau.

 

8.2  Gwelwyd bod cynlluniau rhyddhad ardrethi wedi cynorthwyo rhai trethdalwyr penodol o ran llif arian, cynaliadwyedd a chadw costau'n isel. Yn sgil y trafodaethau a gefais gyda busnesau, mae'n gwbl amlwg imi fod hynny'n bwysig.

 

8.3  Caiff perfformiad ei fesur fesul cynllun ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn hynny o beth. Cesglir data yn rheolaidd gan gynnwys sawl busnes sy’n cael rhyddhad, a lefel y rhyddhad hwnnw. Mae'r cymorth hwn yn ein galluogi ni i ddeall natur y rhai sy'n defnyddio'r cynlluniau. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod y baich posibl y gall anghenion adrodd ei osod ar fusnesau ac awdurdodau lleol.

 

 

 

9.1         Eleni, cymerwyd nifer o gamau pwysig ym maes ardrethi busnes a hynny er mwyn cefnogi busnesau. Er enghraifft, penderfynwyd estyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach am flwyddyn arall. Mae'r cynllun hwn yn cefnogi oddeutu tri chwarter o'r adeiladau busnes sydd yng Nghymru. Mae’n golygu nad oes unrhyw atebolrwydd o gwbl ar hanner y busnesau sy’n gymwys o dan y cynllun.

 

9.2  Cafodd y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fanwerthwyr Cymru ei estyn a'i wella yn   2015-16. Yn 2014-15, gwnaeth y cynllun hwn sicrhau gostyngiad o hyd at £1,000 oddi ar fil treth dros 10,500 o adeiladau busnes yng Nghymru, gan gostio £9.5 miliwn. Mae Cynllun 2015-16 yn adeiladu ar hynny gan gynnig hyd at £1,500 oddi ar y biliau ardrethi. Mae hynny'n rhoi cefnogaeth bwysig i fusnesau bach a chanol trefi.

 

9.3  Yn ogystal, gosodwyd cap pellach ar gynyddu’r lluosydd ardrethi busnes, a bydd yn aros ar 2% yn 2015-16. Mae'r mesur hwn yn lleihau'r bil ardrethi busnes i bob trethdalwr annomestig ac amcangyfrifir y bydd yn costio £4 miliwn yn 2015-16.

 

9.4  Cyflwynwyd y cynllun Datblygiadau Newydd ym mis Hydref 2013. Ei nod yw  ysgogi gwaith adeiladu ac annog datblygu yng Nghymru. O dan y cynllun hwn, mae eiddo masnachol newydd gwag yn cael ei esemptio rhag talu ardrethi busnes am 18 mis o’i adeiladu cyn belled â bod yr adeilad yn cael ei godi ar neu ar ôl 1 Hydref 2013 a chyn 30 Medi 2016.

 

9.5  Agorwyd cylch pellach o Gynllun Ardrethi Bunses Ardaloedd Menter Cymru yn 2015-16. Dros bedair blwyddyn ariannol, mae Cynllun Ardrethi Busnes Ardaloedd Menter Cymru wedi cefnogi 136 o fusnesau ac mae busnesau wedi cael cynnig dros £8 miliwn o gyllid.

 

9.6  Mewn egwyddor, rydym o blaid parhau â’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Busnesau Bach ar gyfer 2016-17. Fodd bynnag, bydd angen edrych ar hwn a mathau eraill o ryddhad yng ngoleuni Adolygiad y Du o Wariant a phwysau a roddir ar Gyllid Llywodraeth Cymru.